| Gweithgareddau diwedd tymor yr Hydref |
|
Bu plant yr ysgol yn hynod o brysur ar ddiwedd y tymor. Cynhaliwyd ein cyngerdd, cinio a pharti Nadolig yn Neuadd yr Eglwys, Clocaenog. Rydym yn ddiolchgar iawn fod y Neuadd ar gael inni bob amser, yn gynnes, yn lan ac yn hwylus. Bu'r disgyblion hynaf yn cynhyrchu cardiau Nadolig ar y cyfrifiadur i'w gwerthu. Fe wnaethant elw sylweddol a bellach maent wedi dewis gwario'r arian ar brynu offer chwarae ar y buarth. Diolch yn fawr i bawb brynodd y cardiau. |