|
Annwyl Rieni/Warchodwyr
Mae'n bleser gennyf gyflwyno ein Prosbectws
i chi. Ysgol Wledig Naturiol Gymraeg yw
ysgol Clocaenog sy'n gwasanaethu pentrefi Clocaenog, Clawddnewydd, Derwen a'r
ardaloedd cyfagos. Rydym yn
gwerthfawrogi ein disgyblion a'n prif nôd yw darparu awyrgylch ddiogel a hapus
sy'n galluogi pob un ohonynt i ddatblygu ei ddoniau i'r eithaf.
Ein hamcan yw creu amgylchedd cyfeillgar a
sefydlog, lle perchir rhinweddau gonestrwydd a charedigrwydd, a lle mae trefn
yn bodoli er lles pawb.
Petaech yn dewis anfon eich plentyn i Ysgol
Clocaenog, rwyf yn hyderus iawn y byddwch wedi gwneud y penderfyniad
cywir. Edrychaf ymlaen at gydweithio â
chi i roi'r addysg orau bosibl i'ch plentyn.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cofiwch gysylltu â mi
unrhyw bryd yn yr ysgol.
Yn gywir
Gwennol A Ellis (Pennaeth)
Galwch lawlwytho copi o'r prospectws yma.
|