Ysgol Clocaenog

Cymraeg

Events Calendarhide

Mawrth 2010
S Ll M M I G S
28 1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31 1 2 3

Llun y dydd

Ffurflen Mewngofnodi






Wedi anghofio eich cyfrinair

Cynllun gan

 hide
Newyddion
Taith i Cadbury World PDF Argraffu  E-bost

Cychwynodd llond bws o rieni, plant a chyfeillion ben bore ar Ragfyr 17eg ar wibdaith i Bournville. Cafwyd diwrnod bendigedig a diolch i Lynne a Llinos am drefnu.


 
Croeso PDF Argraffu  E-bost
Croeso’n ôl i bawb i dymor newydd. Croeso arbennig i’r plant bach sydd wedi dechrau’r ysgol. Gobeithio y byddant yn hapus iawn yn ein plith.

Croeso i Mrs Rwth Hughes sydd wedi ymuno â ni fel Gweinyddes Feithrin yn y boreuau.

 
Gweithgareddau diwedd tymor yr Hydref PDF Argraffu  E-bost

Bu plant yr ysgol yn hynod o brysur ar ddiwedd y tymor. Cynhaliwyd ein cyngerdd, cinio a pharti Nadolig yn Neuadd yr Eglwys, Clocaenog. Rydym yn ddiolchgar iawn fod y Neuadd ar gael inni bob amser, yn gynnes, yn lan ac yn hwylus.

Bu'r disgyblion hynaf yn cynhyrchu cardiau Nadolig ar y cyfrifiadur i'w gwerthu. Fe wnaethant elw sylweddol a bellach maent wedi dewis gwario'r arian ar brynu offer chwarae ar y buarth. Diolch yn fawr i bawb brynodd y cardiau.


 
Cyfeillion yr Ysgol PDF Argraffu  E-bost
Bu’r Cyfeillion yn brysur iawn yn gwerthu bwyd yn Sioe Flodau Rhuthun. Gwnaed elw sylweddol er budd yr ysgol. Y llynnedd, prynodd Cyfeillion yr Ysgol lawer o adnoddau at ddefnydd y disgyblion a’r athrawon ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Bydd rhaglen o weithgareddau ar gyfer y tymor newydd yn cael ei drefnu’n fuan. Cofiwch ymuno a ni – mae’n gyfle gwych i gymdeithasu a chael hwyl tra’n codi arian i’r ysgol.
 
Pantomeim Dick Whittington PDF Argraffu  E-bost
Cafodd y disgyblion a'r athrawon brynhawn gwych yn Theatr Clwyd ddiwedd Ionawr. Roedd y pantomeim yn gynhyrchiad safonol iawn gyda'r sét, y gwisgoedd, yr effeithiadau arbennig, yr actio a'r canu yn gwefreiddio. Rhaid diolch i Gyfeillion yr Ysgol am eu haelioni yn ysgwyddo cost yr ymweliad.
 
<< Dechrau < Blaenorol 1 2 Nesaf > Diwedd >>

Canlyniadau 1 - 9 o 17

hideAmazon Search

Search Now:
Amazon Logo

 hide
runner