Bydd y disgyblion yn gweithio ar y thema ‘Fi Fy Hun’ a rhoddir llawer o sylw i gadw ein hunain yn iach. Bydd nifer o siaradwyr gwadd yn dod i’r ysgol. Bydd y plant hynaf yn astudio Lesotho sef gwlad fechan yn Affrica yn eu gwersi Daearyddiaeth a bydd hyn yn cael ei gysylltu a phynciau eraill hefyd. |
|
|
Cylch Ti a Fi Ardal Clocaenog |
|
|
|
|
Bydd Cylch Ti a Fi newydd yn cychwyn ar 7fed o Hydref. Bydd yn
cael ei gynnal yn Neuadd Clocaenog pob dydd Gwener yn ystod y tymor
ysgol, rhwng 9.15-11.15yb ac yn
gyfle gwych i rieni a phlant bach yr ardal i ddod i adnabod ei gilydd
trwy gyd chwarae. Bydd sessiynau yn costio £1.50 y teulu. Unwaith eto, os gwyddoch am unrhyw deuluoedd fyddai a
diddordeb mewn ymuno a’r sesiynau anffurfiol yma, a fyddech cystal a
gofyn iddyn nhw gysylltu â’r ysgol.
|
|
Diweddarwyd olaf ar ( Mawrth, 27 Medi 2005 )
|
|
Rydym yn ceisio hyrwyddo Bwyta Iach yn yr ysgol ac yn ceisio annog y plant i fwyta mwy o ffrwythau ac i yfed dwr yn ystod y dydd. Y mae gan bob plentyn ei botel ddwr yn yr ysgol ac mae cyfle i blant gael ffrwythau o’r ysgol bob amser chwarae bore. Hoffwn wneud cais i blant i beidio a dod a fferins i’r ysgol yn eu bocsus bwyd. Os gwelwch yn dda, wnewch chi gefnogi’r ysgol gyda’r cais yma. |
|
Mae Oliver Blight wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi i garfan Gogledd Orllewin Cymru o dan 11eg oed. |
|
Yng nghyfarfod Mis Medi, cafodd Mr Mark Petrie, Cysgod y Graig, Clawddnewydd ei ail ethol yn Gadeirydd a chafodd Mrs Amanda Brewer ei hethol yn Is-gadeirydd. |
|
Diweddarwyd olaf ar ( Iau, 22 Medi 2005 )
|
|
|
|