Croeso i'n gwefan
Ysgol fechan wledig ydy Ysgol Clocaenog wedi ei lleoli ym mhentref Clocaenog yn Nyffryn Clwyd. Daw plant i’r ysgol o bentrefi Clocaenog, Clawdd Newydd, Derwn a’r ardaloedd cyfagos.
Caiff ethos yr ysgol ei lywio trwy anelu at sicrhau Gofal, Ystyriaeth a Pharch rhwng y disgyblion, y staff a’r gymuned. Mae’r awyrgylch yma yn groesawus a chyfeillgar a rhoddir sylw arbennig i ddatblygiad cyflawn y plentyn.
Ysgol naturiol Gymraeg yw’r ysgol a Chymraeg ydy iaith yr addysg. Caiff plant o gartrefi Cymraeg, dwy-ieithog a Saesneg y cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw o fod yn rhugl mewn dwy iaith a gallant gymryd rhan cyflawn yn y ddau ddiwylliant.
Mae cyfle i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau all-gyrsiol fel clybiau’r Urdd a Champau’r Ddraig a chânt gyfle i gyfarfod plant o ysgolion eraill mewn gemau pel droed, gala nofio, mabolgampau, cwrs preswyl yng Nglan Llyn a chystadleuthau’r Urdd. Golyga hyn fod plant yr ysgol yn gwneud ffrindiau newydd cyn symud i Ysgol Uwchradd Brynhyfryd.
Cyfeillion yr Ysgol
Rydym yn ymfalchio yn y cysylltiad agos sydd rhwng yr ysgol, y rhieni a’r gymuned ac fe drefnir llawer o weithgareddau gan Gyfeillion yr Ysgol.
I gael gwybodaeth fanylach am yr ysgol darllenwch ein Prosbectws.
|
|
Diweddarwyd olaf ar ( Mercher, 25 Hydref 2006 )
|
|
|
Mae'r Clwb 50 yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd
mwyaf effeithiol i godi arian i'r Ysgol.
Pob blwyddyn mae'r Clwb 50 yn rhoi sum sylweddol i Gyfeillion yr Ysgol,
ac mae'r arian yn cael ei wario i ddarparu defnyddiau ac adnoddau angenrheidiol
i'r Ysgol sydd du hwnt i gyllideb arferol yr Ysgol. Mae'r arian yma, felly, yn hanfodol i addysg y disgyblion.
Sut
mae'r Clwb 50 yn gweithio?:
- Mae pob aelod yn talu £40 y flwyddyn, i'w dalu yn
llawn neu drwy archeb sefydlog.
- Mae 10 tyniad gwobr yn cael eu cynnal rhwng Hydref
a Gorffennaf.
- Mae 3 gwobr ym mhob tyniad:
- Gwobr gyntaf o £50
- Ail wobr o £30
- Trydedd wobr o £20.
- Yn ogystal mae "Prif Dyniad" ychwanegol ym mis
Gorffennaf gyda gwobr o £200!
- Wedi talu am y gwobrau mae'r holl dderbyniadau
sy'n weddill yn cael eu cyfrannu i'r Ysgol drwy weithgareddau Cyfeillion yr ysgol
Sut i
ymuno a'r Clwb 50?
- Lawrlwythwch y ffurlfen gais a'i ddychwelyd
i mi drwy law yr ysgol ac amgáu
siec am £40 yn daladwy i "Ysgol Clocaenog 50 Club"
- Gwnewch hyn cyn gynted ag sydd bosib, os gwelwch yn
dda, mewn pryd i'r tyniad gwobr gyntaf.
Mae aelodaeth o'r cwb 50, nid yn unig yn cynorthwyo plant ein cymuned,
ond yn ogystal mae'n rhoi cyfle da i ennill gwobr werthfawr!! Felly, ymunwch heddiw os gwelwch yn dda, a
hybwch aelodau o'ch teulu, eich ffrindiau a'ch cymdogion i wneud yr un peth!
Diolch am eich
cefnogaeth.
Beci Ratcliffe
Trysorydd, Clwb 50 Cyfeillion yr Ysgol
|
|
Diweddarwyd olaf ar ( Mawrth, 09 Hydref 2007 )
|
|
|